Croeso

Pibyddion bach (castanwydden).
Dechreuais gerfio adar o bren yn fuan ar ôl gweld bwrdd yn llawn ohonynt mewn ffair grefftau yn y stryd yn Ann Arbor, Michigan, yn 1974. 'Rwy'n dal i gofio'r argraff wnaethont arnaf - mae wedi dylanwadu ar fy ngwaith am dros ddeng mlynedd ar hugain. Cyn hynny, 'doeddwn i heb ddangos rhyw lawer o ddiddordeb mewn adar na phren, felly mae'n anodd dweud pam oedd yr effaith mor gryf. Ers hynny, fodd bynnag, mae'r awydd wedi bod yn gryf i wneud rhywbeth sydd fel arfer y tu hwnt i ni: siap crwm yn culhau tuag at esgyniad ac sy'n ffitio'r llaw. Ac y mae byd adar yn cynnig y fath amrywiaeth: mae aderyn y tô yn ymddangos i mi mor wahanol i eryr ag yw llygoden i flaidd. Byd rhyfeddol sydd o'n cwmpas ymhobman yw hwn, er mor gyffredin. Yna, y mae hud y pren, deunydd caled sydd eto'n barod i ddilyn y llif gyda'r cerfiwr, a fel pe bai cynhesrwydd ei dyfiant yn dal ynddo.

Pibydd coesgoch (palalwyfen, wedi ei staenio)
'Rwy'n ffodus i fod yn gweithio yng ngogledd Cymru, ardal sydd â'r fath gyfoeth o fathau o adar. Malltraeth, cartref yr arlunydd adar ysbrydoledig Charles Tunnicliffe a fu farw yn 1979, yw un o fy hoff lefydd. Mae'n bwysig hefyd fy mod yn gallu dod o hyd i froc môr ac afon yn yr ardal i wneud clwydi i'r adar gan mai adar y glannau yw fy ffefrynnau.

 

Copyright 2004 John Davies & Tastic Multimedia :: Website Design by Tastic Multimedia